Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar blant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu

 

Tlodi Plant a Phlant sy’n Dioddef gan fod eu Rhieni wedi’u Carcharu 7  Gorffennaf 2015

Cofnodion

 

Croeso: Christine Chapman AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol

Mae plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi: ‘mae hwn yn faes lle rydym yn gobeithio gwneud gwahaniaeth yng Nghymru’. Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cynhyrchu adroddiad ar dlodi yng Nghymru. Bydd Christine (fel cadeirydd) yn gofyn cwestiwn i’r Prif Weinidog ar dlodi plant.

 

Y cyd-destun cenedlaethol: Dr Sam Clutton, Barnardo’s Cymru

Cyfarwyddwr Polisi Cynorthwyol

Er bod 10 mlynedd bellach wedi mynd heibio ers sefydlu’r Strategaeth Tlodi Plant cyntaf yng Nghymru, nododd Sam fod llawer o waith i’w wneud. Bu iddi ystyried y strategaeth ddiwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015, sydd â mwy o ffocws ar hawliau plant.

 

Mae’r cydberthynas rhwng tlodi a phlant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu, a’r gorgyffwrdd rhwng y materion hyn, yn golygu bod posibilrwydd sylweddol y gall y ddau fater waethygu, gan arwain at anfanteision cynyddol i’r grŵp hwn o blant. Mae’r cwestiynau sydd angen eu gofyn yn cynnwys: sut allwn ni sicrhau eu bod yn sylweddoli beth yw eu hawliau ynghyd â phlant eraill? Mater a godwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru yn ei adroddiad diweddaraf oedd: a oes y fath beth â thlodi haeddiannol ac anhaeddiannol? Mae’r teuluoedd hyn yn wynebu stigma gwirioneddol oherwydd eu sefyllfa. Mae angen inni sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei gosbi am yr hyn mae ei rieni wedi’i wneud. Sut allwn ni feddwl am strategaeth o ran plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu? Sut allwn ni fynd i’r afael â’r mater hwn?

 

Weithiau, yn syml iawn, nid yw pethau’n gwneud unrhyw synnwyr. Rhoddodd Sam enghraifft o dad a oedd yn cwyno nad oedd unrhyw arian yn dod i mewn i’w deulu oherwydd budd-daliadau. Gwylltiodd y tad a chafodd ei arestio. Drannoeth, cafodd y fam ei harestio am ddwyn bwyd. Yn y pen draw, roedd yn rhaid i’r plant fynd i mewn i ofal brys. Nid yw hynny’n gwneud synnwyr ariannol neu foesol. Mae angen inni feddwl am ffyrdd eraill o ddelio â hyn.

 

Gwaith gyda theuluoedd yng nghanolfan ymwelwyr Carchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc: Helen Steele, Gweithiwr Prosiect Barnardo’s Cymru

Cyflwynodd Helen ei hun a’i rôl o fewn y Ganolfan Deuluol yng Ngharchar EM y Parc. Tynnodd sylw at nodau’r prosiect, a disgrifiodd sut mae nodi ardal benodol yn ardal i Barnardo’s Cymru wedi helpu i deuluoedd ddod ymlaen a dod i adnabod staff Barnardo’s Cymru.

 

Aeth Helen ymlaen i ymhelaethu ar waith y gwasanaeth. Pwysleisiodd bwysigrwydd a mantais bod ar gael a meithrin cydberthynas, a bod modd goresgyn rhwystrau drwy ryngweithio. Gall cyfleoedd llai ffurfiol ar gyfer sgyrsiau arwain at gael mwy o wybodaeth a gwybodaeth wahanol am yr hyn sy’n digwydd. Nododd Helen bwysigrwydd cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i deuluoedd, yn enwedig drwy’r broses ymweld, a all fod yn hynod frawychus. Mae rhannu gwybodaeth yn hanfodol, yn ogystal â chynnig cymorth i rieni, gan gynnwys cyngor ariannol a chymorth gyda ffurflenni. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cyfeirio at asiantaethau cefnogi eraill ac yn cyfeirio teuluoedd yn ôl yr angen.

 

Eglurodd Helen fod cost cael aelod o’r teulu yn y carchar yn medru ychwanegu at y pwysau ar sefyllfaoedd ariannol teuluoedd sy’n ymweld â charchardai, teuluoedd sydd eisoes yn wynebu cyllidebau tynn. Cyflwynodd astudiaethau achos a oedd yn cynnwys enghreifftiau trawmatig o deuluoedd sy’n wynebu’r posibilrwydd o gael eu troi allan o’u cartrefi ac effeithiau andwyol ar eu hincwm.

 

Ers i Barnardo’s Cymru ddechrau’r prosiect, gofynnir i garcharorion newydd yn ystod y broses gynefino a oes ganddynt deuluoedd ac a ydynt yn dymuno siarad â Barnardo’s Cymru. Os ydynt yn gofyn am gymorth gan Barnardo’s Cymru, bydd Helen neu un o’i chydweithwyr yn cyfarfod â nhw i drafod eu hanghenion. Mae cymorth arall wedi cynnwys ymweld â charchar â chymorth, cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel y Sgowtiaid a gweithgareddau celf ac ati. Mae holl gostau’r gweithgareddau hyn wedi’u talu, gan gynnig cyfle cyfartal i blant gymryd rhan, waeth beth yw amgylchiadau ariannol eu teuluoedd. Mae’r rhaglen Cychwyn Iach yn cynnig talebau am laeth yn ogystal â ffrwythau a llysiau. Yn olaf, siaradodd Helen y ‘siop gyfnewid’ y mae’r gwasanaeth wedi’i agor, lle mae dillad plant a roddwyd yn cael eu hailddosbarthu rhwng y teuluoedd. Mae’r fenter hon wedi cael adborth cadarnhaol ac wedi gwneud y profiad o ymweld â’r carchar yn un fwy cadarnhaol i’r plant.

 

Carchar, Teuluoedd a Thlodi: Jo Mulcahy, Pennaeth Gwasanaeth Rhanbarthol PACT

Cafwyd cyflwyniad gan Jo ar waith PACT gyda charcharorion a’u teuluoedd yng ngharchardai Abertawe a Chaerdydd, y mae llawer ohono, yn ôl Jo, yn  ymddangos fel petai’n gorgyffwrdd â’r hyn y mae Barnardo’s Cymru yn ei ddarparu yng Ngharchar y Parc.

 

Dechreuodd Jo drwy roi trosolwg ar y themâu allweddol o ran carcharorion a’u rhagolygon economaidd. Mae’r rhain yn cynnwys ystadegau diweithdra, sy’n un o nifer o faterion posibl sy’n effeithio ar deuluoedd cyn iddynt wynebu aelod o’r teulu yn cael ei garcharu. Gan ystyried y mater o safbwynt y carcharorion, nododd Jo mai’r cyflog y gall unigolyn ddisgwyl ei ennill tra ei fod yn y carchar yw £12.50 yr wythnos am waith llawn amser a £7.50 am waith rhan amser. Mae carcharorion yn gwario cyfran helaeth o’u harian ar alwadau ffôn. Mae yna hefyd duedd i garcharorion roi pwysau ar eu teuluoedd i anfon arian, yn ogystal ag ymweld yn rheolaidd ac anfon eitemau fel dillad atynt. Bu Jo yn trafod sut y gall carcharorion golli cysylltiad â chyllidebau teuluol, a bod yn anymwybodol o’u sefyllfa ariannol a faint o faich sydd ar ysgwyddau eu teuluoedd oherwydd y ceisiadau hyn. O fewn gwasanaeth Teuluoedd Cryfach PACT, gofynnir i deuluoedd edrych ar eu gwariant a chymharu’r hyn y mae’r carcharor yn credu sy’n cael ei wario gan y teulu â’r swm gwirioneddol sy’n cael ei wario bob mis. Mae hyn wedi arwain at y carcharor yn ystyried goblygiadau eu ceisiadau i’w teuluoedd. Bu Jo yn trafod ymhellach y gost i’r teulu o gael aelod o’r teulu hwnnw yn y carchar, gan nodi’r goblygiadau ariannol mewn cyfuniad â diffyg ymwybyddiaeth o fudd-daliadau, yn ogystal â stigma ac agweddau’r cyhoedd sy’n awgrymu y dylai teuluoedd dalu am berson sydd yn y carchar. Er mwyn ceisio lliniaru effeithiau rhai o’r materion hyn, mae’r carchar yn cynnig datrysiadau fel sefydlu cyfrifon undeb credyd. Gall carcharorion ddechrau cynilo arian, a hefyd dechrau ar y broses o hawlio Lwfans Ceisio Gwaith cyn iddynt gael eu rhyddhau er mwyn osgoi bwlch yn eu hincwm.

 

Mae ymweliadau â charchar â chymorth, er iddynt gael eu croesawu, yn golygu bod angen bodloni rhestr eithaf hir o feini prawf, ac mae rhai teuluoedd yn cael hi’n anodd llenwi’r ffurflen. Mae yna hefyd stigma a balchder o ran cael cymorth. Ar ôl i garcharorion gael eu rhyddhau, nododd Jo y gall sefyllfa ariannol llawer o garcharorion a’u teuluoedd ymddangos yn heriol, gydag anawsterau yn dod o hyd i waith yn ogystal â chael morgeisi. Gall plant carcharorion golli allan ar yr hyn y mae plant eraill yn ei wneud neu’r hyn yr oeddent yn arfer ei wneud. Yn aml, gofynnir iddynt roi i fyny eu heiddo pan fydd y teulu yn wynebu trafferthion ariannol. 

 

Anghenion carcharorion a’u teuluoedd o ran cyngor: Lindsey Kearton, Swyddog Polisi Cyngor ar Bopeth Cymru

Rhoddodd Lindsey gyflwyniad i waith Cyngor ar Bopeth Cymru a’r gefnogaeth a’r cyngor y maent wedi’u cynnig i garcharorion a’u teuluoedd. Bu Lindsey’n trafod y ffyrdd amryfal y gall carchar effeithio ar deulu yn ariannol ac yn emosiynol.

 

Mae addasu i newid sylweddol yn eu hamgylchiadau yn her sylweddol, ac mae gan tua hanner yr holl garcharorion ddyledion pan maent yn mynd i’r carchar yn y lle cyntaf, ac mae perygl gwirioneddol y bydd eu teuluoedd yn colli eu cartrefi. Yn aml iawn mae ymwybyddiaeth teuluoedd o’u hawliau yn isel, ac awgrymodd Lindsey ei bod yn hanfodol i deuluoedd gael cyngor ar gymorth all fod ar gael iddynt. Canmolodd Lindsey waith mudiadau fel PACT a Barnardo’s Cymru wrth helpu teuluoedd i ddeall beth sy’n digwydd a sut y gallant ofyn am gyngor. Cyflwynodd Lindsey astudiaethau achos sy’n creu darlun o’r hyn sy’n digwydd gyda’r teuluoedd. Esboniodd Lindsey fod ymweliadau â gwasanaethau Cyngor ar Bopeth gan deuluoedd yn tueddu i fod yn fwy ad hoc, wrth i faterion fel problemau gyda budd-daliadau, tai, cyfrifon banc, dyledion ac ati godi.

 

Rhoddodd Lindsey ragor o wybodaeth am waith penodol a phrosiectau gyda charcharorion a’u teuluoedd, un ohonynt yn ymwneud â gwella gallu ariannol, a all fod yn elfen hanfodol o ostwng lefelau aildroseddu. Esboniodd Lindsey sut mae mynd i’r afael â dyledion yn hanfodol i unrhyw raglen sy’n cefnogi carcharorion a’u teuluoedd. Mae’r gwasanaeth hefyd yn helpu gydag agor cyfrifon banc, sy’n gallu datrys y problemau y mae carcharorion yn eu hwynebu wrth chwilio am waith. Bu’r prosiect yn rhedeg rhwng 2008 a 2010, gan ffurfio rhan lwyddiannus o’r rhaglen ryddhau 6 i 8 wythnos cyn rhyddhau carcharorion.

 

Rhaglen arall a ddatblygwyd gan y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth oedd y gwasanaeth cyngor ariannol (MASDAP), a oedd yn cynnwys gweithio gyda phobl yn y carchar ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau drwy’r gwasanaeth prawf. Caiff rhai sesiynau Cyngor ar Bopeth eu cynnal mewn carchardai, gan gynnig cyngor yn uniongyrchol. Ceir hefyd adnoddau ar-lein ynghylch hawliau carcharorion. Mae canllawiau gallu ariannol wedi’u cynnig yn uniongyrchol i droseddwyr. Cynhaliwyd gweithdai rhyngweithiol undydd yn ogystal â sesiynau un i un, a oedd ar gael i’r holl garcharorion. Yn yr adborth cadarnhaol a gafwyd yn sgil y prosiect, dywedodd carcharorion fod y sesiynau wedi bod yn ddefnyddiol. Roedd gwersi a ddysgwyd yn cynnwys yr angen am fwy o gymorth i garcharorion wrth iddynt fynd i’r carchar am y tro cyntaf. Hefyd, mae angen codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd ac mae angen mwy o ddealltwriaeth o’r heriau posibl all godi wrth ddarparu cyngor mewn carchardai.

 

 

Cwestiynau a thrafodaeth

                  

Christine Chapman AC – un o’r materion sydd wedi codi yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar dlodi yw’r ymdeimlad o amwysedd ynghylch tlodi. Mae gwir angen i bobl ddeall bod y stigma i blant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu, yn ogystal â’r diffyg cydymdeimlad hwn, yn her go iawn.

Yvonne Rodgers, Barnardo’s Cymru – Tybed a oes angen dull mwy cydgysylltiedig o fynd i’r afael â’r mater? Rydym yn clywed am lawer o’r datrysiadau posibl o fewn y Grŵp Trawsbleidiol hwn. I mi, mae’n ymddangos bod angen mwy o integreiddio a chydweithredu, sy’n golygu gweithio mewn partneriaeth. Er enghraifft, mae’r holl fater o allu ariannol yn berthnasol i bob oedran a phob grŵp, felly yn amlwg mae angen cymorth wrth fynd i’r carchar am y tro cyntaf a gallai hyn gysylltu â gwaith gyda theuluoedd yn y gymuned. Rwy’n awyddus i beidio â gadael y mater hwn yma. Byddwn yn awgrymu cymryd camau i wneud cynnydd o ran cydweithio.

Lindsey Kearton, Cyngor ar Bopeth – Yn aml iawn, mae yna ewyllys i wneud y gwaith ond mae problemau o ran cyllid. Roedd pobl a oedd yn rhan o’r prosiect yn awyddus i barhau, ac roeddent yn gallu gweld gwerth gwneud hynny, ond nid oeddent yn gallu parhau heb gyllid. Yn sicr, mae llawer o alw. Mae angen i’r pethau hyn gael yr adnoddau priodol, ac mae angen i bobl weld gwerth buddsoddi mewn camau ataliol.

Christine Chapman AC – A yw’n wir bod newid mewn meddylfryd pan ddechreuodd y prosiect? A yw’r newid mewn meddylfryd yn parhau er bod yr arian wedi mynd?

Lindsey Kearton, Cyngor ar Bopeth – Mae’n rhaid inni bwysleisio gwerth y gwaith yn barhaus. Mae’r prosiectau ariannol hyn yn dal i fodoli, ond gallant redeg yn y tymor byr yn unig ar gyfer rhai grwpiau penodol ac maent yn dueddol o fod yn llai hyblyg. Mae angen inni sicrhau ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth. Mae’n ymddangos bod bwlch ar yr adeg pan fydd pobl yn fwyaf tebygol o werthfawrogi ymyrraeth, sef pan fydd aelod o’r teulu yn mynd i’r carchar.

Sam Clutton, Barnardo’s Cymru – Mae hefyd yn bwysig gweithio gyda phobl ar ddiwedd eu cyfnod yn y carchar. Siaradodd Jo a Helen am y materion ar adeg mynd i’r carchar o ran incwm yn cael ei gymryd i ffwrdd. Mae sefyllfa hefyd yn codi ynghylch gofal gan berthynas, ac mae cymhlethdodau o ran perthynas â neiniau a theidiau ac o ran tlodi yn tueddu i gael eu trosglwyddo gyda’r plentyn.

Lindsey Kearton, Cyngor ar Bopeth – Mae angen inni sicrhau bod asiantaethau allweddol yn cynorthwyo teuluoedd ar unwaith.

Christine Chapman AC – Gan gyfeirio yn ôl at bwynt Yvonne, mae hyn yn mynd i fod yn anodd pan nad oes gennym fwy o arian. Efallai bod angen gweithio gyda’n gilydd yn fwy. Sut ydym yn mynd i wneud hynny?

Yvonne Rodgers, Barnardo’s Cymru – Rwy’n meddwl am yr hyn sydd gennym yn y Parc a’r hyn y mae Jo yn ei wneud gyda PACT.

Lindsey Kearton, Cyngor ar Bopeth – Mae angen inni sicrhau ein bod yn trosglwyddo cysylltiadau ac yn siarad â chydweithwyr.

Jo Mulcahy, PACT – Mae angen mwy o hyfforddiant i staff sy’n ymdrin ag ymwelwyr er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’r materion a chynnig gwasanaeth brysbennu gwell.

Lindsey Kearton, Cyngor ar Bopeth – Mae llawer o’r gwaith yn ymwneud â hyfforddi’r hyfforddwr, nid dim ond ymyriadau uniongyrchol. Mae angen, felly, inni weithio gyda grwpiau cymunedol sy’n gweithio gyda grwpiau penodol sy’n agored i niwed i ddatblygu eu sgiliau o ran sut i ymdrin â’u cyllidebau er mwyn iddynt allu trosglwyddo’r wybodaeth i’w cleientiaid. Bydd y wybodaeth hon wedyn yn cael ei rhaeadru.

Christine Chapman AC – Dyma un syniad y gellir ei drafod mewn cyfarfod arall. Bydd y Cynulliad presennol yn dod i ben y flwyddyn nesaf; efallai y gallwn lunio datganiad neu rywbeth ar y diwedd a chynnwys yr awgrym hwn. Nid wyf am golli unrhyw beth.

Lindsey Kearton, Cyngor ar Bopeth – Gallu ariannol Llywodraeth Cymru.

Sam Clutton, Barnardo’s Cymru - Mae’n drist iawn ac mae pob achos sy’n cynnwys tlodi plant hefyd yn arwain at dlodi bwyd; maent yn effeithio ar ei gilydd ac yn gwaethygu’r sefyllfa.

Lindsey Kearton, Cyngor ar Bopeth - Nid ydym yn siŵr beth sydd ar y gorwel chwaith.

Christine Chapman AC – Diolch i bawb am ddod, mae’n bwysig iawn neilltuo amser a chael lle i rwydweithio. Diolch yn fawr i siaradwyr a chynrychiolwyr.